Description
The adventures of a pirate are full of excitement and enjoyment! This book contains a variety of carefully explained activities such as creating a treasure chest, an old treasure map, bags of silver coins, pirate hats, banners, pictures, and more. Additionally, there are over 150 shiny gold stickers included in this book.
Mae byd môr-ladron yn hwyl! Byddi wrth dy fodd yn gwneud pob math o bethau yn y llyfr gweithgareddau cyffrous hwn. Mae pob cam wedi'i egluro'n fanwl; felly beth am wneud cist drysor, hen fap trysor, bagiau'n llawn darnau arian, hetiau môr-ladron, baneri, darluniau a llawer mwy. Mae dros 150 o sticeri aur sgleiniog yn y llyfr hefyd. |
||
Dyma lyfr gweithgarwch fydd yn cadw unrhyw deulu'n brysur ar brynhawniau gwlyb. Mae yma fôr o syniadau ac awgrymiadau ar sut i fynd ati i lunio pethau sy’n ymwneud â môr-ladron; bydd yn sicr o gadw eich môr-ladron bach chi allan o ddrygioni am sawl awr!
Gan ei fod yn llyfr mawr a lliwgar, sy’n llawn o luniau clir, mae’n hawdd iawn dilyn y cyfarwyddiadau. Mae’r Gymraeg yn glir ac yn agos-atoch, ac yn fodd cyfrwys o gyfoethogi geirfa’r plant ar y pwnc. Deniadol iawn yw cynnwys y sticeri môr-ladron i’w defnyddio gan y plant. Nid yn unig y mae sticeri bob tro yn plesio’r bobl ifanc, ond maent hefyd yn fodd hawdd o ychwanegu lliw a phatrymau at y gwaith llaw. Mae’r gweithgareddau'n amrywiol iawn – gan gynnwys llunio pypedau bys, peintio llun o long, llunio map trysor, arwydd drws a stensil. Er bod y thema yn un a gysylltir yn draddodiadol â bechgyn, cynhwysir y merched yn amlwg yma yn y lluniau, ac felly byddai’n anrheg ddelfrydol i unrhyw blentyn 4–10 oed, yn enwedig os ydynt yn hoff o grefftau. Byddai’r llyfr hwn yn fendigedig fel sail i barti ar thema môr-ladron. Llawer mwy o hwyl yw creu hetiau a gwahoddiadau eich hunain yn hytrach na’u prynu! Ond un rhybudd cyn bwrw ati – gwnewch yn siŵr fod digonedd o bapur trwchus a chardfwrdd yn y tŷ, yn ogystal â siswrn a glud! |