Llyfr Jôcs y LOL fa


Price:
Sale price£4.95

Description

Llyfr Jôcs Newydd i Ddisodli Cracyrs y Nadolig Yma

Rhan o draddodiad y Nadolig erbyn hyn wrth y bwrdd cinio yw tynnu’r cracyrs, rhyfeddu at yr anrhegion a darllen y jôcs sydd y tu fewn. Wel, ni fydd rhaid aros tan y twrci i rannu jôc neu ddwy'r Nadolig hwn oherwydd mae llyfr newydd gan y Lolfa yn llawn o’r jôcs Cymraeg mwya gwreiddiol erioed.

Dywedodd Dewi Pws, sydd wedi cyfrannu nifer o jôcs a cherddi doniol i Lyfr Jôcs y LOLfa, “Pan o’n i’n naw oed, ro’n i’n dwli mynd i’r ysgol. Nid achos bo fi isie dysgu unrhyw beth, ond achos bo fi isie rhannu’r jôcs diweddara gyda fy ffrindie. Gobeithio neith rhai o’r jôcs a’r cerddi yma eich helpu chi i weld ochor ddoniol bywyd. Ond peidiwch â gwenu gormod – bydd pobol yn meddwl eich bo chi’n neud rhywbeth amheus!”

Ychwanegodd Meinir Wyn Edwards, golygydd y llyfr: “Mae’r deunydd wedi ei gasglu o wahanol ffynonellau. Cynhaliwyd cystadleuaeth yng nghylchgrawn Cip a chasglwyd rhyw 150 o jôcs ar stondin y Lolfa ar faes Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol eleni er nad oedd pob un yn weddus i’w cynnwys yn y llyfr!”

Yn ogystal â jôcs mae yna nifer o gartwnau gan Huw Aaron. Bydd y gyfrol yn sicr o daro deuddeg gyd phlant o un i gant oed y Nadolig hwn gan olygu y bydd gwerthiant cracyrs ar i lawr yng Nghymru o leiaf.

Dyma ambell i jôc o’r llyfr:

Beth wyt ti’n galw Jac Codi Baw cyfeillgar? Jac Codi Llaw! – Enlli Tudur, Corwen.

Beth yw enw’r pry cop cyflymaf erioed? Corryn Jackson! – Llinos Evans, Ysgol Syr Thomas Jones.

Beth wnaeth y pry copyn ar y cyfrifiadur? Gwefan!

Beth yw hoff fwyd brân? Bran fflecs! - Aneurin, Ysgol y Wern.

Ble mae Barbie yn mynd ar ei gwyliau? Dol-gellau!

Beth ti’n galw plismon o Lanberis? Copa’r Wyddfa! – Glesni Rhys Jones, Ysgol Gynradd Bodedern.

You may also like

Recently viewed